Negyddol Arfaethedig Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir
18 Chwefror 2019

pN(5)019 – Rheoliadau Cyllid Llywodraeth Leol (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

Gweithdrefn: Negyddol

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud mân ddiwygiadau canlyniadol i'r ddeddfwriaeth ganlynol ym maes cyllid llywodraeth leol:

  1. Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 2005; a
  2. Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Darganfod Twyll a Gorfodi) (Cymru) 2013

Mae'r Rheoliadau hyn yn cywiro diffygion sy'n deillio ymadawiad y DU o'r UE, megis dileu cyfeiriadau at “Gwladwriaethau'r AEE”, “Trwyddedau Ewropeaidd” a “cwmnïau AEE” yn y Rheoliadau diwygiedig.

Cafodd y rheoliadau hyn eu gosod at ddibenion sifftio o dan Ddeddf yr UE (Ymadael) 2018 yn unol â Rheol Sefydlog 27.9A

Rhiant-Ddeddf: Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018

Bodlonwyd Gofynion y Sifft: Ni Nodwyd

 

pN(5)022 – Rheoliadau Cymwysterau Athrawon (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

Gweithdrefn: Negyddol

Gwneir y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir i Weinidogion Cymru gan baragraff 1 o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p.16) er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiannau yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol, a diffygion eraill, sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd  Fe’u gwneir hefyd wrth arfer y pwerau yn adrannau 132 a 135 o Ddeddf Addysg 2002.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud gwelliannau i is-ddeddfwriaeth sy’n berthnasol i gydnabod cymwysterau athrawon yng Nghymru.

Cafodd y Rheoliadau hyn eu gosod at ddibenion sifftio o dan Ddeddf yr UE (Ymadael) 2018 yn unol â Rheol Sefydlog 27.9A.

Rhiant-Ddeddf: Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018

Bodlonwyd Gofynion y Sifft: Ni Nodwyd

pN(5)024 – Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

Gweithdrefn: Negyddol

These Regulations amend the following legislation relating to town and country planning —

The Town and Country Planning (Control of Advertisements) Regulations 1992;

The Town and Country Planning (Local Development Plan) (Wales) Regulations 2005;

The Town and Country Planning (Development Management Procedure) (Wales) Order 2012; and

The Planning (Hazardous Substances) (Wales) Regulations 2015.

The amendments are being made in order to address failures of retained EU law to operate effectively and other deficiencies arising from the withdrawal of the United Kingdom from the European Union.

These Regulations were laid for the purposes of sifting under the EU (Withdrawal) Act 2018 in accordance with Standing Order 27.9A

Rhiant-Ddeddf: Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018

Bodlonwyd Gofynion y Sifft: Ni Nodwyd

 

pN(5)025 – Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer (Cymru) 2010 er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill yng nghyfraith yr UE a ddargedwir sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Gosodwyd y Rheoliadau hyn at ddibenion sifftio o dan Ddeddf yr UE (Ymadael) 2018 yn unol â Rheol Sefydlog 27.9A.

Rhiant-Ddeddf: Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018

Bodlonwyd Gofynion y Sifft: Ni Nodwyd

 

pN(5)026 – Rheoliadau Safonau a Labelu Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i is-ddeddfwriaeth sy’n gymwys yng Nghymru ym maes cyfansoddiad a labelu bwyd.

Mae’r Rheoliadau hyn, ac eithrio rheoliad 6, i’w gwneud drwy arfer y pwerau a roddir i Weinidogion Cymru gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21(b) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae rheoliad 6 wedi ei wneud o dan adran 16 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 i ddiwygio Rheoliadau Mêl (Cymru) 2015 i osod  y dull dadansoddi y mae’n rhaid i awdurdodau bwyd ei ddefnyddio i wirio cydymffurfedd â gofynion y Rheoliadau hynny. 

Gosodwyd y Rheoliadau hyn at ddibenion sifftio o dan Ddeddf yr UE (Ymadael) 2018 yn unol â Rheol Sefydlog 27.9      A.

Rhiant-Ddeddf: Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018

Bodlonwyd Gofynion y Sifft: Ni Nodwyd

 

pN(5)027 – Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol a’u Symud ar draws Ffin) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

Gweithdrefn: Negyddol

Mae Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol a’u Symud ar draws Ffin) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (yr “offeryn") yn diwygio gweithrediad presennol Cyfarwyddeb 2001/18/EC Senedd Ewrop a Chyngor Ewrop, dyddiedig 12 Mawrth 2001, ar ollwng Organeddau a Addaswyd yn Enetig i’r amgylchedd yn fwriadol ("y Gyfarwyddeb Gollwng yn Fwriadol"), sy’n pennu fframwaith o reolaethau ar ollwng Organeddau a Addaswyd yn Enetig. Mae angen caniatâd blaenorol ar ollyngiadau arfaethedig ac mae hyn yn amodol ar fod yr Organeddau a Addaswyd yn Enetig dan sylw yn pasio asesiad gwyddonol o’u heffaith bosibl ar iechyd dynol a’r amgylchedd. Dirprwywyd penderfyniadau ynghylch a ddylid cymeradwyo gollyngiadau prawf Organeddau a Addaswyd yn Enetig i Aelod-wladwriaethau a rhanbarthau o fewn Aelod-wladwriaethau. Yn y DU, mae penderfyniadau o ran profion Organeddau a Addaswyd yn Enetig wedi’u datganoli. Gwneir penderfyniadau ynghylch gollwng Organeddau a Addaswyd yn Enetig ar gyfer marchnata masnachol ar y cyd ar lefel yr UE. Yn achos hadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig ar gyfer tyfu yn benodol, mae’r Gyfarwyddeb yn darparu darpariaethau dewisol sy’n caniatáu i Aelod-wladwriaethau, neu Lywodraethau datganoledig gydag Aelod-wladwriaethau, atal tyfu hadau a gymeradwyir gan yr UE yn eu tiriogaeth. Caiff y Gyfarwyddeb ei gweithredu yng Nghymru gan y    Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 2002.

Mae’r offeryn hwn hefyd yn diwygio ein gweithrediad domestig o Reoliad (EC) Rhif 1946/2003 Senedd Ewrop a Chyngor Ewrop, dyddiedig 15 Gorffennaf 2003, ar symudiadau organeddau a addaswyd yn enetig ar draws ffiniau, fel y’u gweithredwyd yng Nghymru gan Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Symud ar draws Ffin) (Cymru) 2005, sy’n rheoleiddio allforio Organeddau a Addaswyd yn Enetig o’r UE i drydydd gwledydd (heb fod yn yr UE). Y gofyniad allweddol yw y dylid hysbysu’r wlad sy’n derbyn ynghylch allforio am y tro cyntaf Organeddau a Addaswyd yn Enetig a fwriedir ar gyfer eu gollwng i’r amgylchedd i gael ei chymeradwyaeth cyn eu hanfon. Mae’r rheoliad yn gweithredu gofynion Protocol Bioddiogelwch Cartagena i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Amrywiaeth Fiolegol (y mae’r UE a’r DU yn rhan ohono).

Gellir categoreiddio’r diwygiadau yn fras fel:  

·         Dileu cyfeiriadau at ddarpariaethau yn ‘unol â deddfwriaeth yr UE’ a chyfeiriadau eraill at gyfraith neu rwymedigaethau’r UE, ac yn hytrach cyfeirio at gyfraith neu rwymedigaethau’r UE a ddargedwir;   

·         Copïo diffiniadau o fewn y rheoliadau eu hunain, yn lle cyfeirio at ddiffiniadau sydd o fewn Cyfarwyddebau’r UE, neu’n nodi y dylai cyfeiriadau fod at ‘fersiynau’ penodol o ddarnau o ddeddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd; 

·         Diweddaru cyfeiriadau at gyfresi eraill o ddeddfwriaeth a gaiff eu newid yn dilyn ymadawiad â’r UE neu lle mae angen diweddariad beth bynnag oherwydd bod y cyfeiriad at ddarn o ddeddfwriaeth sydd heb fod yn gyfredol;   

·         Newid cyfeiriadau at ‘lefel Aelod-wladwriaeth’ i ‘unrhyw gyfraith o unrhyw ran o’r DU’; a  

·         Addasu’r ddarpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru hysbysu ‘Aelod-wladwriaethau eraill yr UE’ ynghylch effeithiau amgylcheddol ar draws ffiniau, er mwyn adlewyrchu statws newydd Cymru y tu allan i’r UE.  

Cafodd y Rheoliadau hyn eu gosod at ddibenion sifftio o dan Ddeddf yr UE (Ymadael) 2018 yn unol â Rheol Sefydlog 27.9A

Rhiant-Ddeddf: Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018

Bodlonwyd Gofynion y Sifft: Ni Nodwyd

pN(5)028 – Rheoliadau Pysgodfeydd a Rheoli Morol (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i’r offerynnau domestig a ganlyn:

a.       Rheoliadau Cofrestru Prynwyr a Gwerthwyr Pysgod a Dynodi Safleoedd Arwerthu Pysgod (Cymru) 2006;

b.       Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011; a

c.       Rheoliadau Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop (Grantiau) (Cymru) 2016.

          Mae’r gwelliannau hyn yn angenrheidiol i sicrhau bod y llyfr statud yn parhau i fod yn weithredadwy ar ôl i’r DU ymadael â’r UE, drwy ymdrin â diffygion mewn deddfwriaeth ddomestig sy’n deillio o ymadawiad y DU.

Gosodwyd y Rheoliadau hyn at ddibenion sifftio o dan Ddeddf yr UE (Ymadael) 2018, yn unol â Rheol Sefydlog 27.9A

Rhiant-Ddeddf: Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018

Bodlonwyd Gofynion y Sifft: Ni Nodwyd

 

 

pN(5)029 – Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

Gweithdrefn: Negyddol

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012 a Rheoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 2017. Maent yn cywiro diffygion mewn deddfwriaeth ddomestig ar farchnata hadau a phlanhigion ffrwythau a deunyddiau lluosogi sy'n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd, er mwyn sicrhau bydd y drefn hon yn parhau i fod yn weithredol ar ôl ymadael â'r UE.

Gosodwyd y Rheoliadau hyn at ddibenion sifftio o dan Ddeddf yr UE (Ymadael) 2018, yn unol â Rheol Sefydlog 27.9A

Rhiant-Ddeddf: Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018

Bodlonwyd Gofynion y Sifft: Ni Nodwyd